OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1663 (Cy. 215)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan Atodlen 1 i Ddeddf Iechyd 2006, yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â throseddau o dan adran 91(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod modd defnyddio’r ffurflen Hysbysiad Cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn pan honnir bod oedolyn wedi cyflawni’r drosedd o brynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran person o dan 18 oed.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1663 (Cy. 215)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed 4 Medi 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Medi 2015
Yn dod i rym 1 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Iechyd 2006([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Ffurflen hysbysiad cosb benodedig
2.—(1) Mae’r ffurflen hysbysiad cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn wedi ei phennu mewn perthynas â’r drosedd o brynu neu geisio prynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran unigolyn o dan 18 oed o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014([2]).
(2) Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol ddefnyddio ffurflen hysbysiad cosb o faint neu ddyluniad sy’n wahanol i’r ffurflen yn yr Atodlen, ar yr amod nad yw cynnwys y ffurflen hysbysiad cosb yn cael ei newid o’r hyn a bennir yn yr Atodlen ac eithrio fel y’i caniateir gan baragraff (3).
(3) Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol gynnwys mewn ffurflen hysbysiad cosb—
(a) gwybodaeth neu enghreifftiau i gynorthwyo person y’i rhoddir iddo, er enghraifft o ran sut y gellir gwneud taliadau;
(b) gwybodaeth neu enghreifftiau i’w gynorthwyo wrth gyflawni ei swyddogaethau gorfodi o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, er enghraifft i’w gynorthwyo yn ei weithdrefnau gweinyddol neu i brosesu data;
(c) arfbeisiau neu logos.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Medi 2015
ATODLEN Rheoliad 2(1)
|
SCHEDULE Regulation 2(1) |
||
[ENW’R AWDURDOD PWYSAU A MESURAU LLEOL] |
[NAME OF LOCAL WEIGHTS AND MEASURES AUTHORITY] |
||
[CYFEIRIAD YR AWDURDOD PWYSAU A MESURAU LLEOL] |
[ADDRESS OF LOCAL WEIGHTS AND MEASURES AUTHORITY] |
||
DEDDF PLANT A THEULUOEDD 2014: |
CHILDREN AND FAMILIES ACT 2014: |
||
ADRAN 91 (PRYNU TYBACO, CYNHYRCHION NICOTIN ETC. AR RAN PERSONAU O DAN 18 OED) |
SECTION 91 (PURCHASE OF TOBACCO, NICOTINE PRODUCTS ETC. ON BEHALF OF PERSONS UNDER 18) |
||
HYSBYSIAD O GOSB BENODEDIG |
FIXED PENALTY NOTICE |
||
SWM Y GOSB: £90 |
PENALTY AMOUNT £90 |
||
RHAN 1 |
|
PART 1 |
|
COPI’R DERBYNNYDD |
|
RECIPIENT COPY |
|
Rhif yr hysbysiad o gosb |
_______________________
|
Penalty notice number |
|
Enw llawn y troseddwr honedig |
_______________________
_______________________
|
Full name of alleged offender |
|
Cyfeiriad y troseddwr honedig |
_______________________
_______________________
_______________________
|
Address of alleged offender |
|
Cod post |
_______________________
|
Post code |
|
|
|
|
|
Dyddiad geni (os yw’n hysbys) |
_______________________
|
Date of birth (if known) |
|
Rhyw |
|
Sex |
|
Gwryw |
o |
Male |
|
Benyw
|
o |
Female |
|
Mae gennyf i, |
|
I, |
|
|
_______________________ |
|
|
(enw), un o swyddogion awdurdodedig [enw’r awdurdod pwysau a mesurau lleol], reswm i gredu eich bod wedi troseddu o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (prynu neu geisio prynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran unigolyn o dan 18 oed) mewn ardal y mae gan [enw’r awdurdod pwysau a mesurau lleol] gyfrifoldebau gorfodi ynddi.
|
|
(name), an authorised officer of [name of local weights and measures authority] have reason to believe that you committed an offence under section 91 of the Children and Families Act 2014 (buying or attempting to buy tobacco, cigarette papers or a relevant nicotine product on behalf of an individual aged under 18) within an area in which [name of local weights and measures authority] has enforcement responsibilities.
|
|
Amgylchiadau’r drosedd honedig yw eich bod chi, am (amser) |
_______________________ |
The circumstances alleged to constitute the offence are that at (time)
|
|
ar (dyddiad) |
_______________________ |
on (date)
|
|
yn y man a ganlyn (y lle y digwyddodd y drosedd honedig, gan gynnwys y cyfeiriad): |
|
you, in the following place (where alleged offence took place, including address): |
|
|
_______________________
_______________________
_______________________ |
|
|
, yn honedig, wedi (manylion y drosedd): |
|
allegedly (details of offence): |
|
|
_______________________
_______________________
_______________________ |
|
|
Mae’r hysbysiad hwn yn rhoi cyfle ichi fodloni unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y drosedd hon drwy dalu cosb benodedig o £90 (naw deg o bunnoedd). Ni chychwynnir achos am y drosedd hon cyn diwedd cyfnod o 29 diwrnod sy’n dechrau gyda (y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad hwn). |
This notice offers you the opportunity of discharging any liability for conviction for that offence by payment of a fixed penalty of £90 (ninety pounds). No proceedings will be taken for this offence before the expiration of 29 days beginning with (date on which this notice is given).
|
||
|
_______________________
|
|
|
Ni fyddwch yn agored i’ch collfarnu am y drosedd os talwch y gosb benodedig o fewn y cyfnod hwnnw. Yn y Ffurflen hon, cyfeirir at y cyfnod hwn fel y cyfnod o 29 diwrnod.
|
You will not be liable to conviction for the offence if you pay the fixed penalty within that period. In this Form this period is referred to as the 29 day period.
|
||
Cewch dalu swm gostyngedig o £60 (chwe deg o bunnoedd) os talwch o fewn y cyfnod o 15 diwrnod sy’n dechrau gyda (y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad hwn) |
You can pay a discounted amount of £60 (sixty pounds) if you pay within the period of 15 days beginning with (date on which this notice is given) |
||
|
_______________________
|
|
|
Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, caniateir ichi dalu ar y diwrnod gwaith nesaf([3]). Yn y Ffurflen hon, cyfeirir at y cyfnod hwn fel y cyfnod o 15 diwrnod.
|
If the 15th day is not a working day, you may pay on the next working day([4]). In this Form this period is referred to as the 15 day period. |
||
Mae Rhan 2 o’r hysbysiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y dylid rhoi sylw iddi ar unwaith gan y person y rhoddir yr hysbysiad iddo. Rhoddir manylion am sut i dalu’r gosb benodedig yn Rhan 3 o’r hysbysiad hwn. Rhoddir manylion am sut i ofyn am wrandawiad llys ynglŷn â’r drosedd honedig hon yn Rhan 4 o’r hysbysiad hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu os hoffech drafod yr hysbysiad hwn, cysylltwch â/ag [enw a chyfeiriad yr awdurdod pwysau a mesurau lleol ynghyd â’i fanylion cyswllt].
|
Information for the immediate attention of the person who has been issued this penalty notice is at Part 2 of this notice. Details about how to pay this fixed penalty are at Part 3 of this notice. Details about how to request a court hearing in relation to this alleged offence are at Part 4 of this notice. If you have any questions, or if you wish to discuss this notice, please contact [name and address of local weights and measures authority and contact details].
|
||
Llofnod y swyddog awdurdodedig |
_______________________
|
Signature of authorised officer |
|
Dyddiad dyroddi |
_______________________ |
Date of issue
|
|
RHAN 2 |
PART 2 |
GWYBODAETH AR GYFER SYLW PRYDLON Y PERSON Y RHODDIR YR HYSBYSIAD HWN IDDO:
|
INFORMATION FOR THE IMMEDIATE ATTENTION OF THE PERSON WHO HAS BEEN ISSUED WITH THIS NOTICE: |
Rydych wedi cael yr hysbysiad hwn oherwydd bod gan swyddog awdurdodedig [enw’r awdurdod pwysau a mesurau lleol] a enwir yn Rhan 1 o’r hysbysiad hwn reswm i gredu eich bod wedi cyflawni’r drosedd o brynu neu geisio prynu t |